Cit Chwaraeon Newydd – Linc archebu

Mae ein hadran Addysg Gorfforol yn cyflwyno
gwisg newydd ar gyfer y gwersi Addysg Gorfforol a Gemau ym mis Medi 2021.

Mae’r wisg fwy modern yma yn addas ar draws yr holl weithgareddau o rygbi a hoci i gymnasteg. Gweler enghraifft o’r top newydd yn y llun. Bydd logo’r ysgol a’r brand ActifYBP yn cael eu hychwanegu at y wisg.

Byddwch yn gallu prynu’r cit wrth y cwmni lleol, GG Designs: www.ggdesignsonline.com

Bydd disgyblion hefyd yn gallu personoli eu dillad trwy roi llythrennau eu henwau ar unrhyw eitem a brynir.

Os oes unrhyw gwestiwn, plîs e-bostiwch gweinyddu@bropedr.ceredigion.sch.uk