Llongyfarchiadau mawr i Osian o flwyddyn 11 ac i Sion a Zara o flwyddyn 12 ar eu llwyddiannau yn rownd terfynol athletau trac a maes rhyngwladol SIAB, yn Stadiwm Moorways yn Derby ar ddydd Sadwrn, Medi’r 25ain.
Roedd y tri yn cynrychioli Cymru, ac wedi derbyn eu ‘fest’ cyntaf i Gymru, wrth iddynt gystadlu yn eu meysydd gwahanol yn erbyn athletwyr o bob cwr o Ysgolion Prydain.
Dyma’r canlyniadau:
Osian: Clwydi 100m y Bechgyn – 14.90
Naid Uchel i Fechgyn – 1.90m
Zara: Naid Drifflyg i Ferched – 10.27m
Sion: Gwaywffon i Fechgyn – 57.02m
Llongyfarchiadau enfawr i’r tri ar eu perfformiadau ardderchog a chlod mawr iddynt am gael eu dewis i dîm Cymru!
