Dyma gyfres o ddogfennau a deunyddiau defnyddiol i rieni:
Cinio yn y Campws Cynradd
Gwybodaeth am Brydau Ysgol (Gwefan Cyngor Sir Ceredigion)
Prydau Ysgol am Ddim
Parentpay (Campws Cynradd)
Parentmail (Campws Uwchradd)
Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Mae gennym Gymdeithas Rhieni ac Athrawon cryf. Ei phwrpas yw creu a chadw cysylltiad cryf rhwng yr ysgol a’r cartref. Bwriad y Gymdeithas yw cyfrannu’n hael at yr ysgol yn ariannol ac, yn bwysicach, trwy gefnogi a hybu.
Gyda chydweithrediad y Pennaeth, mae’r Pwyllgor yn gallu trefnu digwyddiadau addysgol ynghyd a rhai cymdeithasol ar bynciau sy’n haeddu sylw. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ym mis Medi/Hydref pryd y dewisir y swyddogion. Mae’r rhieni’n cael eu cynrychioli ar Gorff Llywodraethol yr ysgol.
Cadeirydd (2021): Emma Wood
(I gysylltu â’r CRA – cysylltwch â’r ysgol ar naill a’i 01570 422 214 neu gweinyddu@bropedr.ceredigion.sch.uk ac fe ddanfonwn eich gwybodaeth gyswllt ymlaen at y Cadeirydd)


Gwisg Ysgol
Gellir archebu gwisg ysgol o dderbynfa’r Ysgol (derbynfa’r Campws Uwchradd)