
Crëwyd gweledigaeth ein cyfadran drwy gasglu barn ystod o arbenigwyr profiadol ar y cyd o fewn y Celfyddydau ar draws oedrannau dysgu 3-19.
Mae’r gyfadran Celfyddydau Mynegiannol yn ymdrechu i ddarparu ystod o brofiadau cyfoethog i’r holl ddysgwyr er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial.
Bwriadwn gydweithio fel grŵp o arbenigwyr dysgu 3-19 ar draws yr amryw gamau dilyniant er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd yn unol â’u gallu. Mae gennym ddisgwyliadau uchel a thrwy gyfrwng ein cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol cyffrous, ein bwriad yw cynhyrchu dysgwyr uchelgeisiol, medrus ac annibynnol.
Cred Ysgol Bro Pedr bod y Celfyddydau yn chwarae rhan cyffrous a rôl arweiniol wrth ddarparu ffocws deinamig ym mhrofiadau addysgiadol eu dysgwyr.
Mae’r Celfyddydau yn cyfoethogi ansawdd ein profiadau ac yn darparu gweithgareddau gwerth chweil sy’n ysbrydoli, hysbysu, symbylu, herio a diddanu.Mae’r Celfyddydau yn helpu datblygu’r gallu i ffurfio a chyfathrebu syniadau a theimladau, maent yn gwella sgiliau parhaus drwy ymateb, datblygu a gwerthuso a sgiliau corfforol drwy reoli a’r defnydd o symud. Yn syml mae’r Celfyddydau yn dda ar gyfer ein lles a bydd ein dysgwyr yn elwa llawer o’u hastudio.
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol yn hanfodol i ehangu sgiliau Celfyddydol yn ogystal â gwybodaeth ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’n unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Mae ymateb ac adlewyrchu naill ai fel artist neu cynulleidfa yn ran hanfodol o ddysgu drwy’r Celfyddydau Mynegiannol. Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, ac yn tynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.
Mae ymwneud â’r Celfyddydau yn helpu i feithrin agwedd bositif ymysg dysgwyr drwy ddatblygu ystod eang o rinweddau megis cydweithio, brwdfrydedd, angerdd, menter, cadernid a bod yn uchelgeisiol. Rydym yn annog cynhwysiant yn galonnog, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn caffael ymdeimlad o berthyn yn ogystal ag adeiladu’r hunan hyder sydd angen arnynt i wneud yn dda ac i wneud y camau cyntaf tuag at addysg uwch, cyflogaeth a’r/neu’r byd ehangach.
Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn croesawu datblygiad diwylliannol,yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr i arbrofi gwahanol ddiwylliannau a chydnabod ein gwerthoedd ac amrywiaeth. Bydd ein ffocws bob amser yn dechrau gyda’n hetifeddiaeth lleol, cyfoethog ac yna’n ehangu i ddathlu ein diwylliant Cenedlaethol yma yng Nghymru. Fel canolfan i’r Celfyddydau yn y gymuned a’r Sir, bydd Ysgol Bro Pedr yn darparu cyfleoedd di-ri i grwpiau ac unigolion chwilio a darganfod hunan-gyflawniad ac ymwybyddiaeth.
Bwriadwn groesawu heriau dysgu’r unfed ganrif ar bymtheg drwy gynnig cyfresi creadigol i’n dysgwyr megis Adobe Creative Cloud.
Dylai pob dysgwr gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u cryfderau o fewn y Celfyddydau drwy gwricwlwm arloesol a thrwy’r ystod o brofiadau a chyfleoedd y mae’r ysgol yn eu cynnig. Bwriadwn felly wrando ar lais y dysgwr ac ymateb i’w anghenion, profiadau a’u mewnbwn.
Ymdrechwn i gynnig profiadau gwerthfawr a chyfoethog drwy:
- lunio Cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol sy’n eang a chytbwys ac sy’n adlewyrchu’r datganiadau yn briodol
- Cynnig themâu deinameg a chyweithiau eang sydd wedi eu cynllunio’n drwyadl ar draws y camau dilyniant i ysbrydoli ein dysgwyr
- Cydweithio gyda Meysydd dysgu eraill a gweithredu themau traws cwricwlaidd
- Darparu dysgu o ansawdd uchel yn y pump disgyblaeth arbenigol o fewn y Celfyddydau
- Asesu traws-disgyblaeth er mwyn sicrhau dilyniant perthnasol ar hyd y continwwm
- Ymweld â chanolfannau ac arddangosfeydd lleol, Cenedlaethol a Rhyngwladol
- Gweithdai gan arbenigwyr mewnol a chyn-ddisgyblion yn ogystal ag arlunwyr, cerddorion, actorion, dawnswyr, perfformwyr a’r diwydiant ffilm/cyfryngau.