
Mae datblygiad mathemateg wedi mynd law yn llaw â datblygiad gwareiddiad ers y cychwyn cyntaf. Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd, megis pensaernïaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, arian a pheirianneg. Er bod mathemateg ynddi hi ei hun, ac wrth gael ei chymhwyso, yn greadigol ac yn hardd, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill.
Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd (Maes) yn cynnwys datblygu pum hyfedredd cysylltiedig a rhyngddibynnol. Dydyn nhw ddim yn nhrefn pwysigrwydd, ac mae ystyried yr hyfedreddau hyn yn hollbwysig wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm er mwyn sicrhau cynnydd dysgwyr.
- Dealltwriaeth gysyniadol
- Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau
- Cymhwysedd strategol
- Rhesymu rhesymegol
- Rhuglder