Dewch i gwrdd ein Uwch Dîm Rheoli

Mrs Jane Wyn
Pennaeth
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw yw safon yr addysg a naws gartrefol a hapus yr Ysgol.

Mrs Carys Morgan
Dirprwy Bennaeth
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw’r awyrgylch cyfeillgar a’r ethos gynhwysol, person-ganolog sy’n annog pob disgybl i wireddu eu dyheadau.

Mr Heulyn Roderick
Pennaeth Cynorthwyol
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw’r gymuned agos a gofalgar, gyda phob diwrnod yn cynnig profiadau newydd, amrywiol a gwerth chweil.

Mrs Bethan Payne
Pennaeth Cynorthwyol
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw’r teimlad o berthyn. Mae’r staff a disgyblion yn creu naws hapus a chyfeillgar a dwi’n chwerthin bob dydd.

Mrs Llinos Jones
Pennaeth Cynorthwyol
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw cwmni’r staff a’r plant ac y mae pob diwrnod yn gwbl wahanol sy’n gwneud fy swydd yn un ddiddorol iawn.

Mr Deiniol Williams
Pennaeth Cynorthwyol
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw‘r disgyblion, y staff a’r gymuned ehangach, sy’n amrywiol eu natur ond sy’n gynhwysol ac yn groesawgar.

Dr Tony Vobe
Uwch Athro
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw gweld disgyblion yn llwyddo. Mae pob disgybl yn cyfri ac mae’n hyfryd gweld ein pobl ifanc yn gwneud cynnydd.

Mrs Naomi Edwards
Uwch Athrawes
Y peth gorau am Ysgol Bro Pedr yw’r hyder y mae ein disgyblion yn ein adael efo ac y gallu i ffynnu a bod yn llwyddiannus mewn meysydd amrywiol.