Adran llawn cyffro a symud ydym. Mae gan bron pob athro/athrawes yn yr adran gyfle i ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol ac rydym wedi prynu meddalwedd newydd o’r enw ‘Maths Workout’ sydd er lles y disgyblion. Bydd gan bob disgybl yn yr ysgol gyfle i ddefnyddio’r meddalwedd yma yn ystod amser egwyl a chinio, a rhai hyd yn oed yn ystod eu gwersi ‘sgiliau’.

Gwybodaeth Ychwanegol
- Mrs Enfys Powell
- Miss Melanie Hands
- Mr Dylan Jones
- Mrs Rhian Morris
- Mrs Amy Edgell
- Mrs Mair Morgan
- Mrs Caroline Davies
Bydd y disgyblion yn dysgu amrywiaeth o bynciau gwahanol er mwyn gwella eu sgiliau mathemategol.
Haen Uwch : Graddau A* – D | Haen Sylfaenol : Graddau C – G
Rhaid i bob disgybl cwblhau 3 uned:
- Uned 1 – Mathemateg ym mywyd pob dydd (30%) [1 1/4 awr]
- Uned 2 – Mathemateg heb gyfrifiannell (30%) [1 1/4 awr]
- Uned 3 – Mathemateg gyd chyfrifiannell (40%) [Haen Uwch 1 3/4 awr / Haen Sylfaenol 1 1/2 awr]
Bydd ein disgyblion yn eistedd Uned 2 ar ddiwedd Blwyddyn 10, Uned 1 yn ystod Tymor y Gwanwyn ym Mlwyddyn 11 ac Uned 3 yn ystod Tymor yr Haf ym mlwyddyn 11.
Mae’r gwaith wedi ei rannu’n 6 uned; mae yna gyfuniad o Fathemateg Pur, Ystadegaeth a Mecaneg, sy’n dod o dan yr enwau unedau canlynol: C1, C2, C3, C4, S1, S2 neu M1.
Mae pob uned gwerth 100 o farciau’r un, ac mae’r cyfan yn cyfrif hyd at 600
Nid oes unrhyw waith cwrs.
Er mwyn eistedd arholiad Lefel AS, rhaid astudio 3 uned sy’n gwneud 300.
Rhai cydrannau o’r unedau:
Differu, integriad, geometreg, tebygolrwydd, Gwasgariad Binomial Distribution, Poisson ac Arferol, momentwm, fectorau