Ein Gweledigaeth
Our Vision
Cenhadaeth Ysgol Bro Pedr, yn ysbryd yr arwyddair ‘A fo ben bid bont’, yw darparu addysg gyfoethog ar gyfer yr holl ddisgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn gwireddu eu llawn potensial. I gyflawni hyn, bydd Ysgol Bro Pedr yn ysgol gyffrous a deinamig sy’n medru addasu’n gyflym i heriau addysgu’r unfed ganrif ar hugain. Bydd hon yn ysgol sy’n datblygu strategaethau ac addysgeg ar sail ymchwil, yn ysgol sydd yn barod i fentro ac arbrofi wrth dorri tir newydd fel Ysgol 3-19 ac fel sefydliad sy’n dysgu gydol oes.
Cred yr Ysgol bod pob disgybl yn unigryw a bod pob plentyn yn cyfri. Dylai’r ysgol felly fod yn bont sydd yn helpu disgyblion i oresgyn unrhyw anawsterau ac sy’n grymuso ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion sy’n barod i ddysgu trwy eu bywydau. Ysgol ag iddi ethos cynhwysol, person-ganolog yw Ysgol Bro Pedr sy’n paratoi pob dysgwr i gofleidio heriau’r dyfodol drwy ddarparu ysgol hapus iddynt ddatblygu eu medrau i’r eithaf ac sy’n cadw anghenion ac uchelgais pob disgybl wrth wraidd yr hyn a gynigwn o fewn ein cwricwlwm.
Fel Ysgol 3-19, rydym yn bont gydol oes sydd â chyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion sydd yn ein gadael ar ddiwedd Blwyddyn 11 neu 13 yn gadael yr ysgol yn unigolion hyderus, gwybodus, creadigol ac egwyddorol. I gyflawni hyn, bydd Ysgol Bro Pedr yn darparu cwricwlwm a phrofiadau dysgu cydlynus sy’n pontio’r cyfnodau oedran ar draws yr ystod 3-19.
Rydym yn bont sydd yn meithrin dysgwyr iach, annibynnol ac amlieithog sy’n ymhyfrydu yn eu hysgol a’u cymuned. Bydd dysgwyr 3-19 Ysgol Bro Pedr yn ddysgwr sy’n dangos parch at holl rhanddeiliaid yr ysgol ac yn unigolion uchelgeisiol sy’n gosod safonau uchel i’w hunain yn barhaus. Bydd yma ymdeimlad cryf o gydweithio fel un gymuned ac o ganlyniad bydd disgyblion, staff, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr a holl rhanddeiliaid yr ysgol yn aelodau balch o gymuned Ysgol Bro Pedr. Bydd ein disgyblion yn gwerthfawrogi a pharchu eu cymuned leol cyn eu bod yn lledu eu hadenydd a mentro i’r byd mawr. O ddarparu profiadau cyfoethog a chreu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned leol, gobaith yr ysgol yw y bydd nifer o’r disgyblion yn dychwelyd i gyfoethogi eu cymuned leol gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Ysgol Bro Pedr’s mission, in the spirit of the motto ‘A fo ben bid bont’ (be a leader, be a bridge), is to provide a rich education for all pupils to ensure they realise their full potential. To achieve this, Ysgol Bro Pedr will be an exciting and dynamic school that can adapt quickly to the challenges of teaching in the 21st century. It will be a school that develops strategies and pedagogy based on research, a school that is willing to take risks and experiment by breaking new ground as a 3-19 School and as a lifelong learning institution.
The school’s belief is that every pupil is unique and that every child counts. The school should, therefore, be a bridge that helps pupils overcome any difficulties and empowers our learners to become citizens that are ready to learn throughout their lives. Ysgol Bro Pedr is a school with an inclusive person-centered ethos that prepares all learners to embrace the challenges of the future by providing a happy school for them to develop their skills to the utmost, ensuring that the needs and ambitions of all pupils are at the heart of what we offer within our curriculum.
As a 3-19 school, we are a lifelong bridge with a responsibility to ensure that pupils leaving us at the end of Year 11 or Year 13 leave the school as confident, informed, creative and ethical individuals. To achieve this, Ysgol Bro Pedr will provide a coherent curriculum and learning experiences that bridge the age periods across the 3-19 range.
We are a bridge that nurtures healthy, independent and multilingual learners that delight in their school and community. Ysgol Bro Pedr 3-19 learners will be learners that show respect to all school stakeholders and be ambitious individuals that set high standards continuously for themselves. There will be a strong sense of collaborating as one community and as a result pupils, staff, parents and carers, governors and all school stakeholders will be proud members of the Ysgol Bro Pedr community.